Mae un o grwpiau poblogaidd y 1970au wedi bod yn cofio’r ‘dyddiau da’ wrth greu casgliad newydd o’u caneuon.
Fe fydd Y Llyfr Coch yn cynnwys bron i bob un cân a gafodd ei recordio gan Hergest yn y cyfnod.
“Petawn ni wedi mynd at CD driphlyg bydden ni wedi gallu rhoi pob cân wnaethon ni recordio yn y casgliad yma,” meddai un o aelodau gwreiddiol y grŵp Hergest, Geraint Davies.
“Ond r’yn ni wedi gorfod gadael rhyw 18 cân mas a’i gadw at CD dwbwl. Fe wnaethon ni recordio 2 EP, 4 LP ac mae rhai traciau wedi eu tynnu oddi ar compilations fel Tafodau Tân a Lleisiau.”
Er bod Hergest eisoes wedi rhyddhau casgliad o’u caneuon ar ddechrau’r 1990au, mae allan o brint ers blynyddoedd nawr.
“Roedd y casgliad yna yn cynnwys mwy o ganeuon o flynyddoedd olaf Hergest a fawr ddim o’r blynyddoedd cynnar. Doedden ni ddim yn siŵr ar y pryd os oedd y tapiau hynny i gyd ar gael ac roedd yn anodd dod o hyd i eraill.
“Tro ‘ma mae’r cyfnod i gyd yn cael ei gynnwys, y rhai hwyra’ a’r rhai dw i’n galw’n ‘lunie babi’!”
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3