Mae’n bwysig fod S4C yn rhannu gwaith cynhyrchu rhaglenni teledu trwy Gymru.
Dyna neges un o gyflwynwyr Uned 5, wedi i’r gyfres boblogaidd ddod i ben bnawn Sul.
Bu Rhydian Bowen Phillips yn cyflwyno’r rhaglen am bum mlynedd, a chyn hynny yn westai cyson gyda’r band Mega ac yn wyliwr ers y dyddiau cynnar yn 1994.
Mae ansicrwydd am ddyfodol swyddi 50 o bobol a oedd yn gweithio ar y gyfres a oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Gaernarfon – er bod y cwmni cynhyrchu Antena wedi cael darn o gytundeb gwerth £7 miliwn gan S4C i wneud rhaglenni i blant 13 + dros y tair blynedd nesa’.
“Mae’n rhyw fath o gysur bod yna waith yn mynd i fod yna,” meddai Rhydian Bowen Phillips.
“Mae’n bwysig fod S4C yn parhau i ddarlledu rhaglenni o’r gogledd a bod gwaith teledu yn dod i’r gogledd, achos ar ddiwedd y dydd, S4C i Gymru yw e, ni jest Caerdydd.”
Ar ddiwedd y rhaglen ola’ roedd nifer o’r cyflwynwyr a’r criw yn eu dagrau wrth wylio’r pigion o 16 mlynedd Uned 5.
Cafodd y rhaglen ei symud o nos Wener i amser cinio dydd Sul dros yr haf.
Dywed Rhydian Bowen Phillips bod yna fwlch yn arlwy S4C erbyn hyn.
“Roedd Uned 5 yn targedu pobol 16 plys, myfyrwyr a theuluoedd. Mae tristwch fod y math yna o raglen wedi mynd. Pe bawn i ddim yn cyflwyno Uned 5, mi fyddwn i’n gwylio.”
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3