Mae seicolegwyr o brifysgol Bangor wedi datblygu dull arloesol o ddysgu plant awtistig drwy’r Gymraeg.

Er bod y dull Dadansoddiad Ymddygiad Cymhwysol (ABA) ar gael eisoes drwy’r Saesneg, dim ond yn ddiweddar y mae wedi’i drosi i’r Gymraeg.

Mae ymchwil yn dangos bod y canlyniadau’r un mor llwyddiannus yn y Gymraeg ac yn galluogi plant i aros yn eu cymunedau.

Fe fydd y tim o Gymru yn trafod eu gwaith a manteision diwylliannol a chymdeithasol o drosi’r dull addysgu i’r Gymraeg gyda thimau sy’n gwneud yr un peth yn y Sbaeneg yn yr Unol Daleithiau.

“Syniad ABA yw dysgu sgiliau mewn ffordd systematig iawn iawn,” eglura Dr Elin Walker Jones, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wrth Golwg cyn iddi fynd i Texas i drafod y gwaith.

“Mae lot o blant awtistig yn cael trafferth efelychu. Mae plant sy’n datblygu’n arferol â sgiliau efelychu’n gynhenid – maen nhw’n dysgu lot trwy wylio pobol eraill.

“Cyn dechrau ar unrhywbeth arall, mae hyn yn sylfaenol iawn. Maen nhw [y plant awtistig] yn cael eu dysgu i efelychu’u therapydd, wedyn i efelychu beth mae plentyn arall yn gwneud. Y nod yw cael y plentyn i ymdoddi i’r gymdeithas a phwrpas ABA yw gwneud hynny.”

Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3