Fydd y cwmni sy’n darparu’r adnoddau ar gyfer rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd, ddim yn mynd i’r wal yn ystod wythnos prifwyl ieuenctid Cymru.
Roedd pryderon y byddai Barcud Derwen yn chwalu ddoe.
Mae’r cwmni wedi gwneud dros £3 miliwn o golledion yn y bedair blynedd ddiwetha’, ac mewn dyledion anferthol i fusnesau ac unigolion yn y byd teledu.
Ond mae Golwg yn deall bod cwmni Grant Thornton, benodwyd gan y cyfarwyddwyr, wedi gofyn i’r Uchel Lys am ganiatâd i fasnachu am wythnos ychwanegol.
Bydd yr estyniad yn sicrhau bod adnoddau technegol cwmni teledu Barcud Derwen ar gael i gwmni Avanti, sy’n darparu rhaglenni gydol Eisteddfod yr Urdd i S4C.
Ond mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â phwy fydd yn darparu offer technegol i’r gwahanol gwmnïau fydd yn cynhyrchu rhaglenni Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent.
Mae copi o gynnwys llyfr archeb Barcud Derwen hyd at Fehefin 2010 yn dangos y bydd yr estyniad mewn amser masnachu hefyd o fudd i gwsmeriaid fel y BBC, sydd yn talu £20,000 i Barcud Derwen am adnoddau i ddarlledu’r gêm rygbi rhwng Cymru a De Affrica ddydd Sadwrn.
Mae Barcud Derwen yn darparu 90% o’r adnoddau ar gyfer gwaith stiwdio a darlledu allanol yng Nghymru, ac mae’n un o’r cwmnïau adnoddau teledu mwya’ tu allan o Lundain.
Mae rhestr faith o’r credydwyr sydd heb gael eu talu gan Barcud Derwen wedi dod i law Golwg.
Mae’n cynnwys gweithwyr llawrydd – dynion camera a chwmnïau bach a mawr – sy’n dal i aros am symiau sy’n amrywio o ychydig gannoedd i rai degau o filoedd.
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3