Mae Alun Wyn Bevan yn un o’r sylwebwyr criced ar raglen S4C. Dyma rai o’i sylwadau sydd yn Golwg yr wythnos hon …
Fe fydd rhai ohonoch chi’n gyfarwydd â’r cyflwr… troi a throsi a methu’n lan â chysgu!
Mae’r ymdrech o setlo yn broses hir a phoenus yn enwedig ar ôl llenwi’r bol â chawsydd Stilton, Brie a Pherl Las.
Nid breuddwydio mae dyn yn ei wneud, ond creu rhyw ddelweddau lliwgar yn yr isymwybod; delweddau afreal a ffantasi o’r hyn fydde dyn wedi’i hoffi ei wneud a’i gyflawni yn nyddiau ieuenctid.
Dw i’n dal i ramantu am y cyfnod… cerdded yn frysiog ofalus ar hyd y grisiau concrit i gyfeiriad cae criced gwyrddlas Sain Helen ac mewn awr a hanner gwallgo’ yn cledro bowlwyr Surrey, Middlesex ac Essex i bob cornel gydag ambell ergyd glasurol yn cael ei chodi’n urddasol i’r entrychion i gyfeiriad Bae Abertawe.
Y fi oedd Weekes, Sobers, Dexter, Simpson (Bobby nid Bart)… dw i’n dal i gofio’r batiadau, yn dal i weld y dorf ar ei thraed a finne’n godro’r gymeradwyaeth drwy gamu’n bwyllog nôl i’r pafiliwn â chant arall i’m henw.
Ac yna, o fewn dim o beth, mae’r chwarae’n troi’n chwerw ar ôl sylweddoli fod yr Hollalluog ond yn gwireddu’r freuddwyd i rai fel Bradman, Sobers, Shane (Warne nid Williams), Sachin, Viv a Sunil.
Does dim angen dweud mai criced yw’r gêm o dan y chwyddwydr ac yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf fe fydd S4C yn darlledu pump o gemau ugain pelawd Morgannwg a hynny’n fyw o flaen ein llygaid.
Creu iaith griced newydd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, clywais am enghreifftiau di-ri o bobol a ystyriai criced yn ddi-batrwm ac yn ddibwrpas – gêm Seisnig, sidêt, soffistigedig.
Bellach diolch i 20/20 mae’n slic, yn sionc ac yn secsi.
Mae’r genedl yn hooked ar griced!
Bathwyd termau ar griced gan bobol o galibr Eic Davies, Howard Lloyd, a Tom Marks yn ei gyfrol Dewch i Chwarae Criced – mae tîm S4C yn mynd i fod wrthi’n ddiwyd yn ystod y mis nesa’ yn creu geiriau newydd sbon i ail gyfrol Bruce.
A phetai hi’n arllwys y glaw fe fydd yn rhaid dygymod â fformiwla astrus Duckworth/Lewis ond mae honno’n stori arall!
* Morgannwg v Swydd Gaerloyw, nos Wener Mehefin 4 am 6.25 yr hwyr ar S4C
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3