Mae fan hufen iâ ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi llwyddo i werthu 1,000 o gornedau hufen iâ mewn un diwrnod.

Yn ôl Sioned Roberts o Landeilo sy’n gweithio yn fan hufen iâ ‘Golwg y Mynydd’ fe wnaeth y cwmni werthu 1,000 o gornedau ddoe.

Ond roedd hi’n “ddistawach ddydd Mawrth” pan ddaeth y glaw i faes y Steddfod.

“Pan mae’n brysur mae’n gallu bod ychydig yn stressful,” meddai Sioned wrth Golwg360.

Dyma’r tro cyntaf i Golwg y Mynydd ddod i Eisteddfod yr Urdd i werthu hufen iâ ac ar ôl gwerthiant eleni fe ddywedodd Mary Jones a Sioned Roberts eu bod nhw’n “sicr yn bwriadu dod yn ôl”.

Gan obeithio y bydd y tywydd cystal!