Mae un o awduron mwya’ cynhyrchiol y Gymraeg, wedi mynd ati i sgrifennu nofel Saesneg.

Brodor o Northumberland yw’r awdur Tony Bianchi yn wreiddiol.

Ond mae eisoes wedi cyhoeddi tair nofel yn Gymraeg, sef ei ail iaith, cyn mentro sgrifennu un yn ei iaith gynta’.

Mae ei nofel ddiweddar, Bumping, wedi’i lleoli yn Tyneside. Ac mae ar fin cyhoeddi casgliad o straeon byrion hunangofiannol Cymraeg am yr ardal o dan y teitl, Cyffesion Geordie Oddi Cartref.

Mynd yn ôl

Pam ei fod yn teimlo ei bod yn bryd iddo fynd yn ôl trwy niwloedd y cof i Tyneside?

“Achos o fanna rwy’n dod, dyna le mae’r pethau rwyf fwya’ cyfarwydd â nhw,” yw ei ateb di-lol.

Mae ei tair nofel Gymraeg yn ymwneud a bywyd yng Nghaerdydd a Chymru.

Cyrrhaeddodd Esgyrn Bach a Pryfeta restrau hir Llyfr y Flwyddyn, gyda’r ail yn cipio gwobr goffa Daniel Owen yn 2007.

Cyhoeddodd Chwilio am Sebastian Pierce y llynedd; Ceredigion a llefydd eraill sy’n gefnlen i honno.

Mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer Bumping: rhoi Tyneside ar y map llenyddol o’r diwedd, fel y gwnaeth un o’i hoff awduron, Ciaran Carson, â dinas Belfast yn y nofel The Star Factory.

“Fe hoffwn i wneud yr un peth dros Tyneside yn y llyfr yma ag y gwnaeth Carson i Felfast,” meddai, “ac efallai y gwna’ i weithio lan at hynny.

“Mi fues i yn ôl i wneud bach o waith ymchwil, i gael ryw ysbrydoliaeth, a gafael ar naws y lle. Mae hi’n wahanol i ardaloedd dinesig yng Nghymru. Yn debycach i ardaloedd fel Merseyside a Llundain.”

* Cyffesion Geordie Oddi Cartref, Tony Bianchi, Gomer, £7.99

* Bumping, Tony Bianchi, Alcemi (Y Lolfa), £9.99

Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3