Teulu’r diweddar Archdderwydd Dic Jones fydd yn rhoi cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion, heddiw, er cof amdano.
Ychydig wythnosau cyn iddo farw bu’r Archdderwydd yn trafod ei weledigaeth ar gyfer y gadair gyda’r crefftwr a ffrind mawr iddo, Glan Rees.
Mae’r gadair orffenedig wedi’i seilio ar weledigaeth y bardd a fu farw’r llynedd. Fe fydd hi’n cael ei gwobrwyo i’r enillydd mewn seremoni prynhawn yma.
Disgrifiwyd y gadair gan y Prifardd Tudur Dylan fel “cywaith rhwng bardd a chrefftwr” ac fel “canolbwynt teilwng iawn, iawn ar y llwyfan”.
Mae’r ffenestr wydr lliw yng nghanol y gadair yn “edrych allan ar fyd amaeth, ar dir ag awyr ac ar y barcud coch,” meddai Tudur Dylan.
Yng ngeiriau Glan Rees
“Roedd Dic yn bendant iawn mai cadair syml, fodern ddylai hon fod,” medd Glan sy’n byw yn Nhrefdraeth ac yn gyn-brifathro yn Ysgol Bro Ingli.
“Ar yr olwg gyntaf, mae hon yn gadair syml ond o edrych yn fwy gofalus, fe welwch ddelweddau cryf a phendant iawn; ffrwyth sgwrs gyda Dic, Jean ei wraig a minnau rhyw fis cyn i ni golli Dic.
“Gofynnodd Dic i mi ddangos y dywysen wedi ei phlygu – hynny er mwyn dangos ei barch mawr ef at y beirdd ifanc. Roedd yn aml yn dweud wrtha’i gymaint o barch yr oedd ganddo at y beirdd ifanc a’r hyn y maent yn ei gyflawni.
“Ac ar gefn y gadair, mae cwpled o eiddo Dic o’i gerdd, ‘Y Gamp’. Mynnodd mai ar gefn y gadair y byddai’r geiriau yma ac nid ar y blaen.”
‘Parch’
“Mae’r gadair wedi ei gwneud o barch a chariad at Dic,” medd Jean, gweddw Dic Jones.
“Roedden ni’n ffodus fod Glan wedi dod i’n weld pan ddaeth e. Roedd Dic yn ei bethe ac fe gawsom ni drafod y steil a’r delweddau a dwi’n gwybod y bydde Dic wrth ei fodd â’r gadair orffenedig.”
Bydd y gadair yn cael ei rhoi am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun, Tonnau.
Y beirniaid yw Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd.