Mae’n bosib bod Stand Ogleddol hen gae Parc y Strade ar ei ffordd i Hwngari.
Mae’r cae wedi bod yn wag ers y gêm ola’ yno ym mis Hydref 2008 a thîm rygbi’r Scarlets wedi symud i’r stadiwm newydd, Parc y Scarlets.
Ond mae tîm rygbi Esztergom Valiants wedi dangos diddordeb mewn prynu eisteddle’r gogledd ar gyfer eu stadiwm newydd.
Mae Undeb Rygbi Hwngari yn trafod gyda pherchennog newydd y tir, cwmni Taylor Wimpey.
“Cawson ni i e-bost gan Undeb Rygbi Hwngari, yn gofyn a oeddwn i’n gwybod am glwb gyda stand yn sbâr! Roedden ni’n gwybod bod y Strade’n wag ac fe awgrymais hwnna’n syth,” meddai Ken Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol SOS IRB Kit Aid, y grŵp sydd wedi rhoi’r Hwngariaid mewn cysylltiad gyda Taylor Wimpey.
Mae SOS IRB Kit Aid yn elusen sy’n gweithio mewn gwledydd drwy’r byd yn codi arian trwy ddefnyddio hen gitiau rygbi nad oes eu hangen mwyach ac yn gweithio yn Hwngari ers pedair blynedd.
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3