Mae môr-ladron o Somalia wnaeth orchfygu llong nwyddau tri mis yn ôl wedi cael eu trechu gan y criw yn ystod y nos.
Fe wnaeth y criw ddisgwyl tan fod y môr-ladron yn cysgu cyn ymosod arnyn nhw gan ladd pump a chipio rheolaeth o’r llong yn ôl.
Goroesodd y chweched môr-leidr ond mae o wedi ei garcharu gan griw’r llong MV Rim o Libya. Cafodd y llong 4,800 tunnell ei gorchfygu gan y môr-ladron ar 3 Chwefror yng Nghwlff Aden.
Cafodd aelod o’r criw ei anafu’n ddifrifol yn ystod y brwydro, meddai swyddog o lynges yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cadw llygad ar agor am fôr-ladron yn yr ardal.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gyrru eu llong ryfel agosaf, y SPS Victoria, i roi cymorth meddygol i’r criw.
Ceisiodd môr-ladron, oedd wedi cymryd rheolaeth o long arall, atal y llong ryfel, ond fe wnaethon nhw ddianc ar ôl i hofrennydd oddi ar y llong ryfel nesáu tuag atynt.
Mae môr-ladron o Somalia yn rheoli o leiaf 20 llong ar hyn o bryd. Maen nhw fel arfer yn gofyn am filiynau o bunnoedd cyn rhyddhau y llongau a’u criwiau.