Mae disgwyl i glwt olew BP gyrraedd traethau Florida yfory wrth i’r cwmni fethu ag ymatal llif yr olew milltir dan wyneb y môr.
Dywedodd BP eu bod nhw hanner ffordd drwy’r gwaith o lifio’r bibell olew pan aeth y llif yn sownd. Fe gymerodd hi 12 awr iddyn nhw ryddhau’r llif ac ar hyn o bryd maen nhw’n paratoi i ailddechrau’r gwaith llifio.
Y cynllun yw cysylltu twmffat i’r ffynnon ar waelod Gwlff Mecsico er mwyn ceisio dal y rhan fwyaf o’r olew a’i sugno i’r wyneb. Mae angen torri’r bibell fel bod y twmffat yn ffitio’n daclus.
“Y cwestiwn nawr yw pa mor fanwl y bydd hi’n bosib torri’r bibell,” meddai pennaeth Gwylwyr y Glannau, Thad Allen.
Os nad ydyn nhw’n llwyddo, y gobaith gorau yw tyllu ffynnon olew newydd, ond fe allai hynny gymryd tan ddiwedd mis Awst i’w gwblhau.
Bywyd gwyllt
Dywedodd Thad Allen y byddai mwy o staff, cychod a hofrenyddion yn cael eu gyrru i Gwlff Mecsico wrth i’r clwt olew ledu ymhellach.
Fe fydden nhw’n gosod rhwystrau er mwyn ceisio atal yr olew rhag cyrraedd y lan. Mae’r clwt wedi cyrraedd o fewn saith milltir i draethau gwyn enwog Pensacola yn Florida.
Mae stormydd mellt a tharanau a gwynt cryf wedi gwneud y gwaith o osod y rhwystrau yn anoddach.
Mae’r olew yn bygwth cyfres o draethau ar ynysoedd sy’n hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac yn boblogaidd gyda thwristiaid.
Dechreuodd yr olew ollwng ar ôl i Blatfform Olew Deepwater Horizon ffrwydro ar 20 Ebrill gan ladd 11 o bobol.
Erbyn hyn mae’r olew wedi sarnu 125 milltir o arfordir Louisiana, Alabama a Mississippi.