Mae amddiffynnwr Abertawe, Albert Serran wedi arwyddo cytundeb newydd blwyddyn o hyd gyda’r clwb.
Roedd cytundeb y Sbaenwr yn dod i ben erbyn diwedd y mis, ond mae wedi ymrwymo ei hun i’r Elyrch am flwyddyn arall gyda’r opsiwn o ymestyn y cytundeb am flwyddyn ar ben hynny.
Fe ymunodd Serran gyda chlwb Stadiwm Liberty wrth Espanyol B ym mis Gorffennaf 2008.
Mae anafiadau wedi atal yr amddiffynnwr rhag chwarae’n gyson i’r Elyrch dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac fe gyfyngwyd ef i chwe ymddangosiad yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Ond gydag amheuon ynglŷn â dyfodol nifer o chwaraewyr Abertawe fe fydd rheolwr y clwb, Paulo Sousa (dde) yn falch i ddal gafael ar un arall o aelodau’r garfan.
Mae Abertawe wedi cynnig cytundebau newydd i Leon Britton, Fede Bessone, Andrea Orlandi, Shaun MacDonald a Jamie Grimes.
Ond mae disgwyl i Leon Britton adael y clwb. Mae’r chwaraewr eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.