Mae Andy Powell wedi tynnu ‘nôl o garfan Cymru ar gyfer eu gemau prawf yn erbyn De Affrica a Seland Newydd ar ôl anafu ei goes.
Roedd wythwr y Gleision yn cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer pan gafodd ei anafu, ac mae sgan wedi datgelu iddo rwygo cyhyr yn ei goes chwith a fydd yn ei gadw allan o’r gêm am o leia’ mis.
Mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets, Rob McCusker, wedi cymryd lle Powell ar y fainc i wynebu’r Springboks ddydd Sadwrn, gyda blaenasgellwr y Dreigiau, Gavin Thomas, wedi cael ei ychwanegu ar restr chwaraewyr wrth gefn Cymru.
“Mae Rob wedi bod ar ymylon y garfan am dipyn o amser ac roedd yn anlwcus i fethu â chael lle ar y daith i’r Unol Daleithiau a Chanada’r haf diwethaf,” meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Robin McBryde.
“Ond dim ond mater o amser ydi hi cyn iddo gael ei gyfle ac ennill ei gap gyntaf. Fydd o ddim yn ein siomi ni os bydd gynnon ni ei angen o ddydd Sadwrn.”
Carfan Cymru
15. Lee Byrne 14. Leigh Halfpenny 13. James Hook 12. Jamie Roberts 11. Tom Prydie 10. Stephen Jones 9. Mike Phillips.
1. Paul James 2. Matthew Rees 3. Adam Jones 4. Bradley Davies 5. Deiniol Jones 6. Jonathan Thomas 7. Sam Warburton 8. Ryan Jones.
Eilyddion – 16. Huw Bennett 17.John Yapp 18.Alun Wyn Jones 19. Rob McCusker 20. Richie Rees 21. Dan Biggar 22. Andrew Bishop