Cafodd morwr ei achub am yr ail waith ddoe heb unrhyw offer diogelwch ar ôl i’w gwch golli pŵer unwaith eto.

Achubwyd y morwr am y tro cyntaf echdoe oddi ar y Mwmbwls ond roedd rhaid ei achub am yr ail dro bnawn ddoe oddi ar Rhoose Point.

Echddoe cysylltodd dyn ar y cwch ‘Stravaig’ Gwylwyr y Glannau Abertawe gan ddweud ei fod o wedi colli pŵer ar ei long naw milltir o’r tir.

Doedd ganddo ddim goleuadau, a dim ond ffôn symudol â batri isel iawn arno er mwyn gwneud yr alwad. Yr unig offer mordwyo oedd ganddo oedd teclyn GPS oedd hefyd ar fatri isel.

Bu’n rhaid i Wylwyr y Glannau Abertawe anfon bad achub i’w dynnu i’r lan.

Bron i 24 awr union yn ddiweddarach, am 8:10pm ddoe, galwodd yr un dyn Gwylwyr y Glannau Abertawe yn dweud ei fod o wedi mynd i drafferthion eto.

Y tro yma cafodd bad achub ei gyrru o’r Barri i dynnu’r cwch yn ôl.

“Yn anffodus doedd y dyn yma heb ddilyn ein cyngor ni o gwbl ac wedi gadael ar ei gwch, nid unwaith ond dwywaith, gan wybod nad oedd ganddo ddigon o bŵer i gyrraedd pen y daith,” meddai Dave Jones o Wylwyr y Glannau Abertawe.

“Mae’r rhai fu’n achub y dyn ddwywaith yn wirfoddolwyr ac yn gobeithio na fydd yn rhaid iddyn nhw ei achub o am y trydydd tro.”