Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, wedi dweud na fyddai curo De Affrica yn Stadiwm Mileniwm yn fuddugoliaeth wag.

Mae disgwyl i Gymru guro’r Springboks am y tro cyntaf ers 1999 am nad ydi’r rhan fwyaf o’u chwaraewyr gorau ar gael.

Mae sawl aelod o dîm Peter De Villiers yn gorffwys yn dilyn rownd derfynol y Super 14 oedd rhwng dau dîm o Dde Affrica eleni, sef y Bulls a’r Stomers.

Ond fe fydd y clo dylanwadol, Victor Matfield yn ymuno gyda’r garfan i gymryd lle Andries Bekker sydd wedi’i anafu.

Er gwaethaf yr absenoldebau mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru yn disgwyl perfformiad o safon uchel gan Dde Affrica.

“Mae’r cryfder mewn dyfnder rygbi De Affrica yn anferth – mae hynny’n amlwg wrth edrych ar y tîm maen nhw wedi ei ddewis,” meddai Howley.

“Maen nhw wedi galw ar chwaraewyr profiadol iawn o dramor, ac fe fydd y chwaraewyr hynny’n gobeithio dangos eu doniau.

“Mae ganddyn nhw rywbeth i brofi, blwyddyn cyn Cwpan y Byd,” ychwanegodd Howley.

Mae Rob Howley yn credu y byddai buddugoliaeth yn erbyn De Affrica yn hwb mawr i Gymru cyn iddyn nhw deithio i Seland Newydd am ddwy gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon.

“R’yn ni’n dweud ein bod ni am brofi ein hunain yn erbyn y goreuon – does dim amheuaeth y byddwn ni’n gwneud hynny o 5 Mehefin ‘mlaen,” meddai.