Fydd yna ddim protest yn erbyn gwerthu alcohol o faes yr Urdd, yn ôl arweinydd yr ymgyrch Wynfford Ellis Owen.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill wrth Golwg360 bod mudiad Ewropeaidd wedi gobeithio dod draw i brotestio ond wedi methu dod.

Roedd “pobol ifanc o’r Swistir” wedi “bwriadu dod i Gymru i brotestio yn erbyn penderfyniad yr Urdd i werthu alcohol” meddai Wynfford Ellis Owen.

Roedd yr aelodau o sefydliad ieuenctid Ewropeaidd ACTIVE, sy’n hybu bywyd sobor, wedi ysgrifennu i gefnogi’r ymgyrch, meddai.

“Mae’r grŵp pobol ifanc ACTIVE yn dathlu cyfeillgarwch a heddwch ac yn hyrwyddo ffordd o fyw di-alcohol,” meddai.

“Roedden nhw’n awyddus i ddod i’r eisteddfod i brotestio yn erbyn penderfyniad yr Urdd. Ond yn anffodus yn y pendraw doedden nhw’n methu dod – ar ôl methu cael arian gan noddwyr.

“Mae yna dros 30,000 o aelodau i gyd. Maen nhw’n credu fod gan bobol ifanc yr hawl i gael eu magu mewn awyrgylch heb gyffuriau.”

Roedd o’n brawf bod “Ewrop gyfan yn edrych ar benderfyniad yr Urdd,” meddai.

‘Arbrawf’

“Mae penderfyniad fel hyn yn bellgyrhaeddol ac wedi creu drwg deimlad a dadlau am flwyddyn,” ychwanegodd Wynfford Ellis Owen.

“Y pryder sydd gen i rŵan ydi fod yr Urdd yn dweud mai arbrawf ydi o a’u bod nhw’n asesu ei effaith o.

“Ond os mai’r Urdd sy’n gwneud yr asesu dydan ni ddim am ddysgu llawer. Beth fydd llinyn mesur yr asesu?

“Os nad ydi rhywun wedi meddwi neu ddechrau cwffio – ydyn nhw’n mynd i barhau? Beth am y neges i bobol ifanc?

“Mae gennym ni hawl i gael gwybod beth ydi llinyn mesur yr arbrawf. Wedyn fe gawn ninnau benderfynu beth ydi ei gwerth hi.”