Mae dynes wedi marw yn yr ysbyty ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn y môr ger Pwllheli.

Bu farw’r ddynes 41 oed o Benygroes, Gwynedd yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael ei chludoyno mewn hofrennydd dydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei bod hi gyda ffrindiau ym Mharc Gwyliau Hafan y Môr ger Pwllheli, a bod un ohonyn nhw wedi cysylltu gyda’r heddlu.

Fe fydd yr heddlu yn cynnal archwiliad post mortem er mwyn penderfynu sut y bu hi farw.