Mae “degau o bobol” wedi bod yn ceisio prynu “trôns Mr Urdd” sydd wedi’u cynhyrchu’n arbennig i atgofio digwyddiad fwy na 30 mlynedd yn ôl.
Yn anffodus iddyn nhw, dyw’r trôns ddim ar werth, ond maen nhw’n tynnu sylw at lyfr am hanes y gonc, sy’n cael y clod am achub y mudiad yn yr 1970au.
Gwasg Y Lolfa sydd wedi cynhyrchu’r fersiwn arbennig o’r trôns a nhw sy’n cyhoeddi’r llyfr gan Wynne Melville Jones, Y Fi, Mr Urdd a’r Cwmni Da.
Yn ôl Lefi Gruffydd o’r Lolfa mae “degau o bobl” wedi ceisio prynu’r trôns, er nad ydyn nhw ddim ar werth. “Falle y byddwn ni’n cynhyrchu rhai erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol,” meddai.
Y stori
Fe gafodd y trôns gwreiddiol sylw mawr pan geisiodd yr Urdd eu gwerthu nhw ar stondin y mudiad yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 1978.
O fewn “oriau” roedd swyddogion yr eisteddfod wedi cau’r stondin am eu bod nhw’n teimlo “nad oedden nhw’n addas”, meddai Wynne Melville Jones.
“R’yn ni wedi ail greu’r tronsiau ac mae croeso mawr iddyn nhw yn eisteddfod Llanerchaeron.”