Mae cyn bennaeth heddlu Llundain wedi dweud ei fod o’n “difaru” am fawrolaeth Jean Charles de Menezes wrth siarad yng Ngŵyl y Gelli.

Ond gwadodd Sir Ian Blair unrhyw awgrym fod yna ymgais i gelu’r gwir ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd.

Cafodd y dyn o Frasil ei ladd gan heddlu arfog yng ngorsaf danddaearol Stockwell yn ne Llundain yn 2005 ar ôl iddyn nhw ei gamgymryd am hunan fomiwr.

Dywedodd Ian Blair yn yr ŵyl lenyddol yn y Gelli Gandryll, Powys, bod ei farwolaeth yn “aros gyda fi”.

Ond mynnodd nad oedd yn “gyfrifol” am beth ddigwyddodd, er ei fod o’n “atebol”.

Y cefndir

Cafwyd Heddlu’r Met yn euog o dorri deddfau iechyd a diogelwch ond ni chafodd yr un swyddog ei gyhuddo.

Gadawodd Ian Blair ei swydd ym mis Rhagfyr 2008 gan ddweud nad oedd o’n dod ymlaen gyda maer newydd Llundain, Boris Johnson.

Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y byddai Ian Blair yn cael ei urddo’n arglwydd. Mae teulu Jean Charles de Menezes wedi beirniadu’r penderfyniad.

Blair – y dyfyniadau

“I ddechrau, rydw i’n gwybod fod yna lot fawr o boen yn nheulu de Menezes a alla’i ddim dechrau dychmygu sut mae hynny’n teimlo,” meddai wrth dyrfa o 500 o bobol.

“Rydw i wedi dweud erioed fy mod i’n atebol am farwolaeth Mr de Menezes . Ond rydw i hefyd wedi dweud nad oedden i’n gyfrifol amdano.”

Ond dywedodd fod yn rhaid cofio cefndir yr achos. “Roedd yna hunan fomiwr ar ffo. Roedden ni ar drywydd pobol oedd eisoes wedi cymryd y penderfyniad seicolegol i’w lladd eu hunain ac mae hynny’n sefyllfa beryg iawn.

“Mae’n rhan o natur argyfwng eich bod chi weithiau yn gwneud y peth anghywir.”