Ddylai’r un plentyn dan 15 oed gael yfed unrhyw alcohol o gwbl, meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Yn ôl Tony Jewell, mae yna dystiolaeth bod alcohol yn gallu niweidio ymennydd, esgyrn a hormonau pobol ifanc wrth iddyn nhw ddatblygu.

Fe fydd ymgyrch gyhoeddusrwydd yn dechrau yn yr wythnosau nesa’ i dynnu sylw rhieni at y cyngor.

“Mae alcohol yn gyffur sy’n effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd ac ar yr afu,” meddai Tony Jewell ar Radio Wales heddiw.

Mae ei gyngor, Chi, Eich Plant ac Alcohol yn sôn am ffigurau sy’n dangos bod pedwar o bob plentyn dan 15 oed yng Nghymru yn yfed alcohol bob wythnos.

Mae dau o bob deg yn dweud eu bod wedi meddwi cyn bod yn 13 oed.

Risg difrifol

“Mae yfed gormod mewn pyliau ac yfed trwm yn risg difrifol i bobol ifanc,” meddai’r ddogfen.

Ond mae hefyd yn dweud bod agwedd rhieni at alcohol yn cael effaith ar ymddygiad plant.

“Gall rhieni a gofalwyr ddiogelu’u plant rhag camddefnyddio alcohol drwy gadw perthynas agos gyda’u plant, gan osod rheolau clir ynglŷn ag alcohol a goruchwylio’u plant yn yfed.,” meddai.