Mae glaw trwm wedi achosi tirlithriadau sydd wedi lladd o leiaf 38 o bobol yn ne China, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd asiantaeth newyddion Xinhua yn y wlad bod achubwyr wedi dod o hyd i 18 corff yn rhanbarth Guangxi, ble mae’r tirlithriadau wedi gorchuddio ffyrdd a difrodi tai.

Bu farw o leiaf 23 o bobol yn Sir Rongxian a 12 yn Sir Cenxi.

Mae mwy nag 80,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi ar ôl i’r glaw mawr ddechrau ddydd Llun. O’r rheini ni fydd gan tua 3,000 dai i fynd yn ôl iddyn nhw.

Dywedodd asiantaeth Xinhua bod achubwyr yn dal i chwilio am 14 person arall sydd ar goll.

(Llun: Xinhua)