Mae teyrngedau wedi dechrau llifo i gofio am Iwan Llwyd, un o feirdd mwya’i genhedlaeth.
Yn ôl Prifardd arall, o feirdd yr un cyfnod ag ef, Iwan Llwyd fydd yn cael ei gofio ymhen cenedlaethau a chanrifoedd.
Yn ôl ffrind arall o fardd, roedd yn mynd â Chymru i’r byd ond yn dod â’r byd yn ôl i Gymru hefyd.
Mae ffrindiau a llenorion wedi sôn am ehangder ei feddwl, ei bersonoliaeth braf a hefyd am eu pryder tros ei iechyd.
Dyma rai o’r geiriau sydd wedi cyrraedd Golwg 360 …
Bardd cyflawn
Y Prifardd John Gwilym Jones
Gwelwn ryw gyflawnder yn arfogaeth ddiwylliannol Iwan. Roedd yn un o’r cerddorion gwerthfawr hynny yng Nghymru a allai greu geiriau ar gân sy’n gyfoethog eu harwyddocâd ac yn gryf eu delweddau. Yn ei farddoniaeth, y caeth a’r rhydd, mae yna fedrusrwydd trawiadol a dyfnder awgrymog.
Personoliaeth a droediai’r eithafion fyddai bob amser i mi. Fe allai ymollwng yn ddireol weithiau i ffitiau chwerthin pan fyddai rhywbeth yn ein goglais ni. Bryd arall byddai dwyster ysgytwol yn ei sylwadau.
Roedd yn aelod amhrisiadwy mewn tîm Talwrn. Pa dasg bynnag a landiai yng nghôl Iwan, boed yn limrig neu gywydd neu delyneg, gellid ymddiried ynddo bob tro y byddai ganddo ryw weledigaeth.
Cofiaf amdanom fel tîm wedi cau ein hunain lawer gwaith mewn car tu allan i neuadd, yn ymbalfalu am ryw oleuni wrth weithio englyn. Byddai’r gweddill ohonom yn taflu’n llinellau i’r pair. Ond nid llinellau fyddai gan Iwan ond trywydd meddwl, a’r syniad hwnnw ar unwaith yn ein hargyhoeddi.
Ar aelwyd ei fagwraeth fe gafodd orau Dyfed a Môn, ym mhob ystyr. Fe gafodd yno hefyd gefndir deallusol a roes iddo olwg dreiddgar i mewn i fywyd ei gyfnod, yn ogystal â’i fywyd ei hun. Ac er cymaint y medrai fwynhau cymdeithas cyfeillion, anian unigolyddol oedd iddo. Hynny efallai a wnâi ei farddoniaeth mor unigryw.
Y daith bwysig
Y Prifardd Myrddin ap Dafydd
Y peth cynta’ wnes i ar ôl clywed oedd eistedd i lawr a darllen ei gerddi eto. Mi allaf glywed ei lais drwy’r geiriau o hyd. Un o’r pethau oedd yn ei gario fo oedd mai’r daith ei hun sy’n bwysig, nid ei phen draw hi. Roedd llawer ohonon ni wedi bod yn ofni hyn ond doedd dim y gallai neb ei wneud am yr afiechyd os nad oedd o’n ewyllysio bywyd gwahanol.
O sbïo’n ôl ar hynny ac o ddarllen y cerddi, yr hyn sy’n eich taro chi ydi’r ddynoliaeth fawr oedd ynddo fo a’i gydymdeimlad at sawl cymuned leiafrifol a pherson unigol – nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd.
Roedd o’n medru gweld y ddaear gron, yn gallu cysylltu problemau gwerin Cymru efo brodorion America neu’r Negroaid yn New Orleans a’u gwneud nhw’n hollol berthnasol.
Roedd o’n hoff iawn o ddisgrifio bywyd fel taith, ac mi aeth yntau ar daith yn ei fywyd a’i farddoniaeth.
Roedd ganddo fo gerdd gynnar yn awgrymu fod barddoni yn Gymraeg fel bod mewn pyb yn Llundain, ar ymylon cymdeithas a neb yn gwrando. Dw i’n amau dim nad oedd y teimlad ynysig yna’n rhan ohono fo yn y cyfnod cynnar hwnnw.
Roedd ein cenhedlaeth ni’n sgrifennu ar y dechrau er mwyn i bobol hŷn wrando ond, wrth fynd ar ei daith, mi newidiodd gwaith Iwan ac mi newidiodd barddoniaeth Gymraeg. Mi ddaeth i sgrifennu i’w genhedlaeth ei hun ac i’r to nesa’ – mi ddaeth ei gerddi o hyd i’w cynulleidfa.
Ar ei daith, mi ddechreuodd gynnal nosweithiau barddoniaeth o fath gwahanol, teithiau barddonol, mynd i glybiau a thafarndai – mae barddoniaeth Gymraeg wedi newid tros y chwarter canrif ddiwetha’ ac oedd cyfraniad Iwan yn allweddol. Ac mae wedi bod yn wych o daith yn ei gwmni o.
Mi fydda’ i’n gweld colli’r sgyrsiau, ei anwyldeb mawr a’i gonsyrn … nid dim ond at bethau personol a theuluol ond hefyd at y wlad a’i threftadaeth. Roedd o wrth ei fodd yn ei chyflwyno hi i’r to nesa’.
Yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, mi fyddai’n adrodd straeon wrth y plant am fywydau’r chwarelwyr ac yn gweithio cerddi a chaneuon er mwyn eu gwreiddio nhw yn eu cefndir a’u diwylliant.
Ble bynnag yr oeddan ni’n mynd, mi fyddai’n dod o hyd i chwedl leol i gyfleu’r dreftadaeth yna. Ym Mhowys, y barcud oedd o … yr aderyn yn arwydd o natur yn goroesi a diwylliant yn goroesi. Roedd y barcud fel arwr o’r gorffennol neu rywun yn cael ei erlid.
Roedd ganddo fo’i ddychymyg arbennig ei hun ac roedd wrth ei fodd yn cyflwyno’i weledigaeth i’r genhedlaeth nesa’. Roedd o’n byw er mwyn hynny ac mi fyddai yn llawn hwyliau pan fyddai’n teimlo bod pethau yn gweithio’n dda mewn ambell noson. Ar un olwg, roedd popeth yn uniongyrchol a chymdeithasol a rhwydd i’w ddeall amdano fo a’i waith; ond roedd yna ddelweddau dyfnion, personol a chyffyrddiadau telynegol iawn ynddyn nhw hefyd.
Y daith olaf
Ysgrif goffa gan Karen Owen, bardd a ffrind
Dyn ar daith oedd Iwan Llwyd. Doedd pellter ddim yn ffactor. Doedd prinder arian byth yn rhwystr. Doedd neidio ar fws neu drên neu awyren ddim yn broblem. Roedd llenwi ei rycsac a thaflu cês y gitar ar ei gefn bob amser yn antur. A doedd amser jyst ddim yn cyfri’.
Ar daith bywyd, mi gariodd nifer o bethau gyda o. Mi aeth â’i eiriau i bob rhan o Gymru, a’u dychwelyd adre’ yn ganeuon. Mi fu’n rhamantu, fel ei arwr, TH Parry-Williams, yn Ne America. Mi gariodd ei angerdd tuag at yr iaith a hanes Cymru ym mhocedi dyfnion y siaced ledr. Ac mi gysgododd nifer o gyfrinachau dan gantel ambell un o’i hetiau.
Ym mhob stop ar y daith, mi fu’n clustfeinio ar sgyrsiau teithwyr eraill. Mi wnaeth nodyn o bob sgwrs ddiddorol yn y llyfr bach du a gariai ym mhoced din ei jins. Mi glywodd nifer o’i ddramâu yn cael eu perfformio ar blatfforms stesion ymhell cyn eu creu. Yna, gyda’r papur newydd dan ei gesail, mi frasgamodd i’r lle nesa’ er mwyn cael llonydd i ymrafael â’r croeseiriau a fyddai’n ei boeni ar adegau.
Byddai’n ymweld â Môn ei dad a Cheredigion ei fam yn aml – weithiau, heb symud o far ym Mangor. A beth bynnag a ddywedai am fwynhau byw’n ddiwyneb mewn dinas, ac am roc a rôl ei agwedd at y diwylliant Cymraeg a Chymreig, roedd gwybod am ei wreiddiau yn bwysig iddo. Efallai mai dyna ydi bod yn rhydd.
Y tro olaf i ni gydweithio oedd ar gyfer talwrn Eisteddfod Môn eleni. Gan eistedd i lawr i ysgrifennu ben bore, roedd ganddon ni gnwd da o gynhyrchion erbyn amser cinio. Mae’r englyn cynta’ hwn yn cyfeirio at gynhesu byd-eang, ond mae ei esgyll (y drydedd a’r bedwaredd linell) wedi magu arwyddocâd newydd yr wythnos hon:
O begwn i begwn byd, – i wennol
mae’n anodd dychwelyd
am mai oer yw Mai o hyd
a’r haf yn eira hefyd.
Ac yna, yr englyn ola’ hwn, sy’n crisialu’r teithiwr eto, ond a ddygodd wynt o enau’r gynulleidfa yn nhalwrn Llangefni ar Fai 11 oherwydd mai Iwan ei hun a’i darllenodd ar y noson:
Pacio’i gês. Pacio’i gusan. – Hyn i gyd,
ac mae’n gadael rwan.
Allwedd, a cherdded allan.
Dyna yw mynd yn y man.
“Fi ydi fi,” meddai droeon, gan dderbyn fod yn ei rycsac lwyth trwm o brofiadau dieisiau hefyd. Ond y rycsac hwnnw oedd y prawf iddo fod ar y