Fe fydd rhaid aros tan fory cyn gwybod a yw’r ymdrechion i atal llygredd olew Gwlff Mecsico yn gweithio.

Mae miliynau o bobol yr Unol Daleithiau wedi bod yn gwylio’r Rhyngrwyd i weld yr ymdrechion i atal y ffynnon olew filltir o dan wyneb y môr.

Mae cwmni BP wedi bod yn ceisio pwmpio math o hylif tew a sbwriel i mewn i’r bibell olew ac maen nhw’n dweud bod pethau’n mynd yn ôl y cynllun.

Ond parhau’n amheus y mae arbenigwyr gan ddweud ei bod yn rhy gynnar eto i ddweud. Yn ôl un, mae’r broses fel ceisio bwydo babi ac, ar hyn o bryd, mae’r babi yn poeri’r bwyd yn ôl.

Fe fyddan nhw’n gwylio’r lluniau’n ofalus i weld pa liw yw’r hylif sy’n dod o’r bibell – fe fydd du’n golygu olew, gwyn yn golygu nwy a brown yn golygu fod yr ymdrech yn llwyddo.

Obama yn Louisiana ddoe (AP Photo)

‘Dim anghofio’ meddai Obama

Ddoe, roedd yr Arlywydd, Barack Obama, yn ardal Louisiana i gysuro’r bobol sy’n diodde’ wrth i’r olew ddod i’r lan gan ddinistrio’r diwydiant pysgota a bwyd môr.

“Dw i yma i ddweud wrthoch chi na fyddwn ni yn eich anghofio chi, na fyddwn ni’n eich gadael ar ôl,” meddai, gan fynnu y bydd rhaid i BP dalu am y difrod.

Mae’r Arlywydd wedi cael ei feirniadu am fethu ag ymateb yn ddigon cyflym i’r argyfwng – mae’r amcangyfrifon am faint o olew sydd wedi gollwng yn amrywio o 18 miliwn galwyn i 40 miliwn.

Llun: Y lluniau rhyngrwyd o’r bibell