Mae cwmni hedfan British Airways yn paratoi am streic arall yr wythnos nesa’ ar ôl i drafodaethau gydag undeb Unite fethu unwaith eto.
Mae’n edrych yn debyg y bydd y criwiau caban yn dechrau ar streic bum niwrnod fory, a nhwthau’n cyhuddo’r cwmni o styfnigrwydd.
Fe ddaeth un streic bum niwrnod i ben ddoe wrth i’r cwmni a’r undeb barhau gyda ffrae chwerw sydd wedi achosi anhrefn ers dechrau’r flwyddyn.
Ceisio cymodi
Roedd y corff cymodi, ACAS, wedi cynnal trafodaethau ddoe ond fe ddaeth y rheiny i ben heb gytundeb – maen nhw’n dweud y byddan nhw’n rhoi cynnig arall ar ddod â’r ddwy ochr at ei gilydd.
Mae un o gyd arweinwyr yr undeb, Derek Simpson, yn dweud eu bod yn fodlon atal y gweithredu os bydd BA yn rhoi’r gorau i gosbi’r streicwyr trwy atal eu hawl i deithiau hedfan am ddim.
Mae’r undeb wedi cyhuddo Prif Weithredwr BA, Willie Walsh, o fod eisiau brwydr i’r pen er mwyn chwalu grym Unite.
Streic ‘yn costio’n ddrud’
Fyddai adfer yr hawl hwnnw ddim yn costio dimai i’r cwmni, meddai Derek Simpson, ond fe fydd streic arall yn costio’n ddrud iawn.
Ond dyw’r cwmni ddim yn ildio ac maen nhw’n dweud bod mwy na’r disgwyl o weithwyr caban wedi torri’r streic.
Mae BA wedi cael y rhan fwya’ o’r hyn yr oedden nhw eisiau ar ddechrau’r anghydfod tros foderneiddio ac ail drefnu amodau gwaith.
Maen nhw’n addo y bydd 70% o’u teithiau pell yn gallu gadael Heathrow yr wythnos nesa’.