Fe ddylai’r Aelod Seneddol newydd Alun Cairns ddewis rhwng bod yn AS neu Aelod Cynulliad, meddai un o’i wrthwynebwyr yn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae Plaid Cymru wedi ymosod yn chwyrn ar benderfyniad y Blaid Geidwadol i ofyn iddo barhau i wneud y ddwy swydd am bron flwyddyn.

Roedd Alun Cairns wedi addo i etholwyr ei sedd newydd, Bro Morgannwg, na fyddai’n ceisio gwneud y ddwy swydd, meddai Ian Johnson, ymgeisydd y Blaid yn yr etholaeth.

Yn ôl un o gyd ACau rhanbarthol Alun Cairns yng Ngorllewin De Cymru, mae’r Ceidwadwyr yn dibrisio rôl Aelodau Cynulliad.

“Mae’n anodd iawn gweld sut y gall Mr Cairns obeithio gwneud ei waith yn AC i un rhanbarth ac yn AS ar etholaeth mewn rhanbarth arall,” meddai Dai Lloyd. “Ar y gorau, mae’n dangos diffyg parch at y bobol sydd wedi ei ethol.”

Dim cyflog, meddai Cairns

Dyw’r Ceidwadwyr nac Alun Cairns ddim yn fodlon trafod y mater ond roedd yr AS newydd wedi cynnig ymddiswyddo ac mae wedi gwneud yn glir na fydd yn codi cyflog am ei waith yn C.

Y drefn arferol fyddai ei fod ef yn ymddiswyddo a bod y nesa’ ar restr ranbarthol y Ceidwadwyr yn 2007 yn cymryd y sedd.

Y gred gyffredinol yw bod y Ceidwadwyr eisiau atal yr ail ar eu rhestr – y cynghorydd dadleuol Chris Smart – rhag dod yn AC yn ei le.

Llun: Alun Cairns – wedi cynnig ymddiswyddo