Mae arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi rhybuddio y gallai’r ffrae tros addysg Gymraeg yn y ddinas fod yn fygythiad i’r llywodraeth glymblaid.
Ar ôl cyfarfod o’r grŵp cynghorwyr neithiwr, fe ddywedodd Neil McEvoy bod cwestiynau’n codi am ddyfodol y glymblaid oherwydd penderfyniad y Prif Weinidog i wrthod symud Ysgol Gynradd Gymraeg Treganna i adeilad newydd.
Erbyn y bore yma, roedd fymryn yn llai ymosodol ar ôl datganiad gan y Llywodraeth y bydden nhw’n rhoi cymorth i Gyngor Caerdydd geisio dod o hyd i ateb.
Ond fe ddywedodd Neil McEvoy wrth Radio Wales bod “elît gwleidyddol” y Blaid Lafur yn chwarae gyda bywydau plant, yn Gymraeg a Saesneg eu hiaith.
Roedd yn cyhuddo’r Llywodraeth o oedi am flwyddyn cyn dyfarnu ar y cynllun i gau ysgol cyfrwng Saesneg a symud yr Ysgol Gymraeg i’w hadeiladau.
Roedd y Cyngor wedi cadw at y rheolau gyda’u cynlluniau ac yn ceisio arbed arian trwy gael gwared ar lefydd gwag, meddai; roedd y mater bellach yn nwylo’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Rhaid rhoi arian, meddai Wigley
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, wedi ymuno yn y ddadl hefyd ar ôl bod yn siarad gyda rhieni’r ysgol Gymraeg.
Roedd rhaid i’r Prif Weinidog gynnig arian ychwanegol i’r Cyngor er mwyn datrys y broblem ac ymateb i’r galw cynyddol am addysg Gymraeg.
“Mae hyn yn her i hygrededd y llywodraeth y mae Carwyn Jones yn ei harwain,” meddai Dafydd Wigley.
“Dw i wedi cael fy nychryn gan y ffordd y mae Llafur wedi ail-wneud penderfyniad democrataidd Cyngor Caerdydd. Mae gan y penderfyniad yma oblygiadau ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru.”
Llun: Carwyn Jones dan bwysau