Mae’r Llywodraeth newydd yn Llundain yn wynebu ei sgandal mawr cynta’ tros gostau seneddol un o’r gweinidogion allweddol.
Fe gyfaddefodd y dyn sy’n gyfrifol am dorri £6.2 biliwn o wario cyhoeddus ei fod wedi cam-hawlio mwy na £40,000 tros gyfnod o bum mlynedd.
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Democrat Rhyddfrydol, David Laws, wedi ymddiheuro, wedi addo talu’r arian yn ôl ac wedi mynd â’i achos at y Comisiynydd Safonau Seneddol.
Mewn datganiad un frawddeg, fe ddywedodd Rhif 10 Downing Street mai dyna oedd y penderfyniad iawn.
Hawlio
Roedd David Laws wedi hawlio arian – rhwng £720 a £950 y mis – i dalu am rentu stafell yng nghartref ei gariad gwrywaidd, lobïydd gwleidyddol o’r enw James Lundie.
Yn ôl David Laws ei hun, nid gwneud arian oedd y bwriad ond cuddio’r ffaith fod y ddau mewn perthynas – doedd ffrindiau na theuluoedd y ddau ddim yn gwybod hynny, meddai.
Ers 2006, mae rheolau Tŷ’r Cyffredin yn dweud nad oes gan AS hawl i dalu rhent i bartner – mae David Laws yn gwadu bod James Lundie ac yntau yn byw fel pâr priod.
Y disgwyl yw y bydd AS Yeovil yng Ngwlad yr Haf yn dod dan bwysau mawr i ymddiswyddo – yn enwedig oherwydd ei rôl yn torri ar wario.
Ar ei wefan ym mis Mehefin y llynedd, ynghanol y sgandal gostau, roedd wedi brolio nad oedd ef “wedi prynu eiddo gydag arian y trethdalwr”.
Datganiad David Laws
Dyma’r datganiad yn llawn
“Rwyf wedi bod mewn perthynas gyda James Lundie ers tua 2001 – tua dwy flynedd ar ôl symud i mewn ato. Dyw ffrindiau na theulu ddim wedi bod yn ymwybodol o’n perthynas trwy gydol yr amser hwnnw.
Hawliais gostau rhannu cartref yn Kennington gyda James o 2001 i Fehefin 2007.
Ym mis Mehefin 2007, prynodd James dŷ newydd yn Llundain a pharheais i hawlio’n ôl fy nghyfran o’r costau.
Ychwanegais at y morgais ar fy eiddo yng Ngwlad yr Haf – nad wyf yn hawlio unrhyw lwfansau na chostau ar ei gyfer – er mwyn helpu James i brynu’r eiddo newydd.
Yn 2006, newidiwyd rheolau’r Llyfr Gwyrdd [sy’n gosod y safonau] er mwyn gwahardd taliadau i bartneriaid.
Wnes i erioed ystyried fy mod yn torri’r rheolau a ddiffiniodd yn 2009 yr hyn a olygai wrth bartner: “un o gwpl … sydd, er nad ydyn nhw’n briod i’w gilydd neu’n bartneriaid sifil, yn byw gyda’i gilydd ac yn trin y naill a’r llall fel priod”.
Er ein bod yn cyd-fyw, doedden ni ddim yn trin ein gilydd fel priod – er enghraifft dydyn ni ddim yn rhannu cyfrifon banc ac, yn wir, mae ein bywydau cymdeithasol ar wahân.
Fodd bynnag, rwyf yn derbyn yn awr bod modd dehongli hyn a byddaf yn mynd ati ar unwaith i dalu’n ôl gostau’r rhent a’r costau cartrefu eraill a hawliais ers i’r rheolau newid ym mis Awst 2009.
Mae James a minnau’n bobl breifat iawn. Gwnaethom benderfyniad i gadw ein perthynas yn breifat, gan gredu mai dyna oedd ein hawl. Yn amlwg bellach, all hynny ddim parhau.
Fy nghymhellion trwy’r amser oedd gwarchod ein preifatrwydd a pheidio â datgelu fy rhywioldeb, nid gwneud elw.
Fodd bynnag, mae’n wir ddrwg gen i am y sefyllfa hon, ac yn derbyn na ddylwn fod wedi hawlio fy nghostau fel hyn ac rwy’n ymddiheuro’n llawn.
Rwyf hefyd wedi tynnu fy achos i sylw’r Comisiynydd Safonau Seneddol.”
Llun: David Laws yn gadael Rhif 10 (Gwifren PA)