Dyw’r Gweilch ddim wedi newid dim ar eu tîm i wynebu Leinster yn rownd derfynol Cynghrair Magners yn Nulyn nos yfory.
Mae’r rhanbarth Cymreig wedi enwi wyth Llew yn y pymtheg, sy’n llawn chwaraewyr rhyngwladol.
Maen nhw’n ceisio torri tir newydd mewn dwy ffordd trwy fod y cynta’ i ennill y gynghrair ar ei newydd wedd, gyda gemau cwpan ar y diwedd, a’r cynta’ i ennill y teitl dair gwaith.
Dau Darw, un Gwyddel … a Chymry
Mae yna ddau o gyn chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd yn y tîm ynghyd â’r Gwyddel Tommy Bowe – maen nhw’n ymuno gyda’r 12 Cymro sy’n dechrau’r gêm.
Yn ogystal â Bowe, mae James Hook ac Andrew Bishop wedi cael eu dewis yn y canol gyda Dan Biggar yn faswr mewn llinell ôl sy’n cynnwys Shane Williams ar yr asgell a Lee Byrne yn safle’r cefnwr.
Bydd capten Cymru, Ryan Jones yn arwain y Gweilch o safle’r wythwr gyda’r Crysau Duon Jerry Collins a Marty Holah o boptu iddo.
Adam Jones, Huw Bennett a Paul James sydd yn y rheng flaen gwbl Gymreig, tra bod yna bartneriaeth Gymreig yn yr ail reng hefyd gydag Alun Wyn Jones a Jonathan Thomas.
Fe fydd Filo Tiatia yn gwneud ei ymddangosiad olaf i’r Gweilch os bydd yn dod oddi ar y fainc.
‘Hysbyseb dda’
Mae Prif Hyfforddwr y Gweilch yn credu y bydd y rownd derfynol yn hysbyseb wych i Gynghrair Magners.
“Ar ôl naw mis o waith caled, mae’r cyfan yn dibynnu ar nos Sadwrn. Cyntaf yn erbyn ail am y bencampwriaeth – fe ddylai fod yn achlysur arbennig,” meddai Sean Holley.
“Mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm – dyma beth r’yn ni wedi gweithio amdano trwy’r tymor. R’yn ni am fod y tîm cyntaf i ennill y gynghrair dair gwaith.”
Carfan y Gweilch
15 Lee Byrne 14 Tommy Bowe 13 Andrew Bishop 12 James Hook 11 Shane Williams 10 Dan Biggar 9 Mike Phillips.
1 Paul James 2 Huw Bennett 3 Adam Jones 4 Alun Wyn Jones 5 Jonathan Thomas 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Ryan Jones.
Eilyddion – 16 Ed Shervington 17 Ryan Bevington 18 Ian Gough 19 Filo Tiatia 20 Jamie Nutbrown 21 Gareth Owen 22 Nikki Walker.
Llun: Ryan Jones fydd yn arwain y Gweilch