Mae bachwr Cymru, Matthew Rees wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at gemau prawf Cymru dros yr haf.

Mae chwaraewr y Scarlets yn credu bod y profiad o chwarae i’r Llewod ar eu taith i Dde Affrica wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn.

Roedd Rees ynghyd â nifer o garfan Cymru yn rhan o’r daith yn erbyn y Springboks yr haf diwethaf.

Meddai Matthew

Mae’n amser gwych i chwarae De Affrica gartref, ac mae’n bositif i mi a’r bois arall oedd yn nhîm y Llewod a gurodd y Springboks yn y trydydd prawf,” meddai Rees.

“Roedd hi’n gêm agos y tro diwethaf i ni eu hwynebu nhw yng Nghaerdydd, ac mae chwarae’r timau gorau’n gyson yn mynd i’n helpu ni wella fel tîm.

“Mae De Affrica wedi gwneud rhai newidiadau ac mae ambell chwaraewr allweddol yn eisiau hefyd.

“Mae pob chwaraewr yn edrych ymlaen at y gêm gyda De Affrica. Mae’n gêm enfawr ac fe fydd yn allweddol i ddechrau’r haf gyda buddugoliaeth.”

Paratoi

Bydd Cymru’n chwarae De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm ar 5 Mehefin cyn teithio i Seland Newydd i wynebu’r Crysau Duon ddwywaith.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn credu bod chwarae tair gêm brawf mewn 22 diwrnod yn erbyn timau gorau’r byd yn ffordd berffaith i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.