Roedd dau lanc yn “chwerthin a dweud jôcs” ar ôl rhoi cartref gwraig ganol oed ar dân.

Heddiw fe gafwyd y ddau – Owen Hewitt, 18, a Samuel Luckes, 17 – yn euog o ddynladdiad a chynnau tân yn fwriadol ar ôl i’r wraig gael ei lladd yn y tân.

Fe fu Mary Fox, 59, farw yn Bodmin yng Nghernyw ar noson tân gwyllt y llynedd ar ôl i griw o ddynion ifanc wthio roced drwy ddrws y teulu i’w “dychryn”.

Roedd hynny’n dilyn cyfres o ymosodiadau bwlio ar ei mab Raum, 17. Y tro yma, fe lwyddodd ef i ddianc drwy ffenestr y tŷ cyngor ond fe gafodd ei fam ei lladd gan fwg.

Fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron Truro fel yr oedden nhw wedi chwerthin wrth wylio’r fflamau.

Roedd llanc arall, Ryan Croft, 18, wedi pledio’n euog i’r ddau gyhuddiad mewn gwrandawiad cynharach.