Mae data newydd wedi’i gyhoeddi sy’n dangos bod difa moch daear yn lleihau nifer yr achosion TB mewn gwartheg, yn ôl Llywodraeth y Cynulliad.
Mae’r canlyniadau hyn mynd yn groes i gasgliad ymchwil ar yr un pwnc a gafodd ei gyhoeddi’n gynharach yn y flwyddyn, medden nhw.
Dadl Llywodraeth Cynulliad Cymru yw bod difa’n un arf sydd raid ei ddefnyddio ar y cyd â mesurau eraill er mwyn atal lledu TB.
Mae’r ymgyrchwyr yn honni nad oes prawf y bydd y difa’n gweithio ac y gallai wneud pethau’n waeth trwy ledu’r afiechyd.
Mae’r afiechyd yn costio mwy nag £20 miliwn y flwyddyn mewn iawndal.
Y Cefndir
Ym mis Chwefror 2010 daeth adroddiad Jenkins ar effaith treialon ar hap difa moch daear yn Lloegr, i’r casgliad nad oedd y difa yn arwain at unrhyw fanteision hirdymor o ran lleihau nifer yr achosion TB mewn gwartheg.
Bwriadoedd y treialon ar hap oedd asesu pa mor effeithiol oedd difa moch daear mewn ardaloedd o Loegr.
Yn ôl adroddiad Jenkins roedd effeithiau cadarnhaol difa moch daear yn yr ardal wedi diflannu pedair blynedd ar ôl i’r treialon difa ddod i ben.
Ond yn gynharach y mis yma, fe gafodd yr ymchwil ei ddiweddaru ar ôl dadansoddi’r data ymhellach a daeth i’r casgliad bod effeithiau cadarnhaol difa moch daear wedi ailymddangos yn ystod y chwe mis canlynol.
‘Lleihau’
“Mae tystiolaeth o nifer o astudiaethau, gan gynnwys yr hap-dreialon yn Lloegr, yn dangos y gall difa moch daear leihau TB mewn gwartheg yn sylweddol,” meddai Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
“Mae TB yn glefyd difrifol mewn anifeiliaid, ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario dros £100 miliwn yn ceisio’i reoli, ond mae nifer yr achosion wedi parhau i gynyddu,” meddai Dr Christianne Glossop.
Mae ffermydd yn wynebu argyfwng TB sy’n “bygwth gwartheg ledled Cymru,” meddai cyn dweud nad oes modd ei anwybyddu a bod rhaid mynd i’r afael â’r broblem yn effeithiol “cyn gynted â phosibl”.