Mae myfyriwr aeddfed 40 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio tair gwraig yn ardal Bradford.

Fe fydd yn ymddangos yn y llys heddiw – y llys ynadon yn y bore a Llys y Goron yn y prynhawn.

Mewn datganiad neithiwr, fe ddywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron bod digon o dystiolaeth i’w gyhuddo er nad yw cyrff dwy o’r menywod wedi eu ffeindio.

Doethuriaeth

Mae Stephen Griffiths yn 40 oed ac yn gwneud doethuriaeth mewn Criminoleg ac fe gafodd ei gyhuddo ddiwedd y dydd gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.

Yn ystod y dydd ddoe, fe ddaeth cadarnhad mai gweddillion gwraig o’r enw Suzanne Blamires, 36 oed, a gafwyd yn ddarnau mewn bag plastig yn afon Aire ger y ddinas.

Mae Stephen Griffiths hefyd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dwy wraig arall, Shelley Armitage, 31, oed a Susan Rushworth, 43. Roedd y tair yn weithwyr rhyw.

Roedd Susan Rushworth wedi diflannu bron flwyddyn yn ôl a, ddechrau’r mis yma, fe gyhoeddodd yr heddlu boster yn gofyn am wybodaeth am Shelley Armitage.

Yn ôl Prif Gwnstabl Cynorthwyol yr heddlu ddoe, Jawed Akhtar, gweddillion un person oedd yn y bag ac roedd swyddogion yn cynnal “ymchwiliad trylwyr a llafurus”.

Llun: Yr heddlu’n chwilio strydoedd Bradford