Mae Plaid Cymru wedi ymosod yn bersonol ar gyn Brif Weinidog Cymru tros y penderfyniad i wrthod rhoi cartref newydd i ysgol Gymraeg.
Ac mae’n bosib y bydd rhieni yn Ysgol Treganna’n ystyried cymryd camau cyfreithiol i herio’r Llywodraeth.
Yn ôl yr AC Nerys Evans, roedd Rhodri Morgan ei hun wedi arwain yr ymgyrch i rwystro rhoi chwarae teg i addysg cyfrwng Cymraeg.
Roedd penderfyniad y Llywodraeth yn “gywilyddus”, meddai’r AC, sy’n llefarydd addysg i Blaid Cymru. Roedd hi’n mynnu ei fod yn mynd yn groes i strategaeth y Llywodraeth ei hun.
“Mae’r AC lleol a’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, a’r AS Kevin Brennn wedi arwain yr ymgyrch i rwystro darparu’n deg ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai, gan ymosod hefyd ar bartneriaid y blaid ym Mae Caerdydd.
“Dro ar ôl tro, mae Llafur wedi gwrthod pob cynnig i ddatrys yr argyfwng sy’n wynebu addysg cyfrwng Cymraeg yng ngorllewin Caerdydd,” meddai wedyn.
Er hynny, mae Rhodri Morgan ei hun yn ddiedifar – fe ddywedodd bod angen ymateb i’r cynnydd mewn galw am addysg Gymraeg, heb niweidio addysg trwy gyfrwng y Saesneg.
Oherwydd y penderfyniad gan y Prif Weinidog presennol, Carwyn Jones, fydd Ysgol Gynradd Lansdowne ddim yn cael ei chau a fydd Ysgol Treganna ddim yn cael ei symud i’r safle.
Llun: Rhodri Morgan