Bydd iPad cwmni Apple yn mynd ar werth yn ngwledydd Prydain yfory ar ôl oedi mawr oherwydd poblogrwydd y ddyfais yn yr Unol Daleithiau.
Dym’r teclyn cynta’ o’i fath fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr yrru e-byst, darllen nofelau, tynnu lluniau a chwarae gêmau.
Fe fydd yn mynd ar werth am £429 am y fersiwn sylfaenol a £699 am un gyda chysylltiad diwifr i’r we a chysylltiad i’r rhwydwaith 3G.
Bydd siopau Apple yn agor yn gynnar am 8am bore yfory i ddechrau gwerthu’r iPad, ac mae disgwyl i siopwyr giwio dros nos.
Gweithwyr yn lladd eu hunain
Ond mae’r lansiad wedi ei danseilio gan honiadau bod 11 o weithwyr mewn ffatri yn China sy’n creu’r iPad wedi lladd eu hunain dan bwysau gwaith.
Mae Apple yn dweud eu bod yn mynd i ymchwilio i’r marwolaethau yng nghwmni Foxconn, sydd hefyd yn darparu nwyddau trydanol ar gyfer Dell a Hewlett-Packard.
Gwerthodd y cwmni un miliwn o iPadiau yn y 100 diwrnod cyntaf ar ôl mynd r werth yn yr Unol Daleithiau ym mis Ebrill.
“O fewn blynyddoedd fe fydd pobol yn cymryd yn ganiataol ein bod ni’n gallu darllen llyfrau, papurau newydd a chylchgronau wrth deithio o le i le, ac o fewn un ddyfais,” meddai’r arbenigwr brandiau Simon Middleton.