Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw’n awgrymu fod 34% o blant Cymru yn rhy drwm neu’n llawer rhy dew.

Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2009, roedd 57% o oedolion Cymru hefyd yn rhy drwm, a 21% yn llawer rhy dew.

Ymhlith y canfyddiadau eraill:

• Dywedodd 20% o oedolion eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am bwysedd gwaed uchel, a 9% am afiechyd y galon.

• Dywedodd 13% o bobol eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am salwch anadlu, 13% am arthritis, 10% am salwch meddwl, a 6% am glefyd siwgr.

• Dywedodd 27% o oedolion bod ganddyn nhw salwch hirdymor – roedd y ffigwr yn 20% ymhlith plant.

• Mae 24% o oedolion yn dal i ysmygu a 22% arall yn dod i gyswllt rheolaidd â mwg baco pobl eraill mewn llefydd o dan do.

• Roedd 45% o oedolion Cymru wedi yfed mwy na’r canllawiau dyddiol ar gyfer alcohol ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos flaenorol.

Bydd adroddiad terfynol Arolwg Iechyd Cymru 2009, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Medi, yn rhoi gwybodaeth fanylach.