Bydd cwmni newydd sy’n anelu at gynnig gwyliau Cymraeg a Chymreig yn cael ei lansio ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf.

Fe fydd Tro’r Trai, medden nhw, yn ceisio cynnig “gwyliau hapus a phrofiad Cymraeg a Chymreig” gan “gyfoethogi profiad Cymry Cymraeg lleol a phobol ar eu gwyliau yr un pryd”.

Mae’r cwmni’n berchen ar dŷ Hafod y Môr yn Ninbych y pysgod, sir Benfro – tŷ sydd â 4 fflat moethus. Hefyd mae gan y cwmni eiddo ym Mhentref Tresaith, Ceredigion sef tŷ morwrol, Fronifor, gyda 3 fflat moethus; Canolfan sydd yn cysgu 44 o bobl ac yn addas ar gyfer ysgolion, teithiau, mudiadau gwahanol, ffrindiau a theuluoedd mawr; yn ogystal â Siop a Chaffi glan môr y Pentref.

Gwraig fusnes o’r enw Dr Dilys Davies sefydlodd y busnes gwreiddiol ac mae dwy gyfnither o Sir Gaerfyrddin, Heledd ap Gwynfor o Lanpumsaint ac Angharad Clwyd o Bont-tyweli, wedi ymuno gyda hi i gychwyn y fenter newydd.

Polisi

“Mae gennym bolisi fod holl staff y cwmni, gan gynnwys gweithwyr y siop a’r glanhawyr, yn rhugl ddwyieithog er mwyn gallu sicrhau fod ein gwesteion yn gallu derbyn gwasanaeth yn Gymraeg neu Saesneg,” meddai Heledd ap Gwynfor.

“Ein gobaith yw bod yn rhan o broses sy’n adfer busnesau a chwmnïau Cymru i ddwylo Cymry, yn arbennig felly yn ein pentrefi a threfi glan môr, lle mae cynifer o’r busnesau yn nwylo cwmnïau mawr o’r tu fas i Gymru.

“Y canlyniad anochel yw bod rhan fawr o arian y diwydiant twristaidd yn llifo mas o Gymru.”