Fe fydd casgliad o beintiadau newydd gan Elfyn Lewis yn cael eu harddangos yn Oriel Canfas, Caerdydd, fis nesaf.

Fe fydd ‘Gestiana’ yn gasgliad o rhwng 10 a 15 o beintiadau gan yr artist a enillodd brif wobr gelf yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Mae arian grant a gafodd Elfyn Lewis gan Gyngor y Celfyddydau wedi’i alluogi i “ganolbwyntio” ar ei waith a’i “ddatblygu,” meddai wrth Golwg360.

Mae wedi enwi’r casgliad ar ôl y “llong ddiwethaf i gael ei hadeiladu ym Mhorthmadog,” meddai.


‘Gweld rhywbeth’

Fel pob gwaith da, mae’r artist yn gobeithio bod ei beintiadau’n mynd â phobol “i rywle,” eu bod yn “gweld rhywbeth” a’u bod yn “mwynhau’r gwaith”.

Mae 2010 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i’r artist. Ers iddo ennill Medal Aur celfyddyd gain yr Eisteddfod, mae wedi mynd ymlaen i arddangos ei waith mewn tair arddangosfa unigol.

Ar hyn o bryd, mae ganddo waith yn Oriel Mostyn Llandudno – tan fis Medi – ac fe fydd mewn arddangosfa yng Nghroesor o 12 Mehefin tan ganol Gorffennaf.

Fe fydd ei gasgliad diweddaraf yn Oriel Canfas, Caerdydd o ddydd Sadwrn, 5 Mehefin hyd ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf.