Mae’r Ysgrifennydd Busnes wedi ymosod ar y cynnydd mawr yng nghyflogau penaethiaid prifysgolion.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd y Telegraph heddiw, dywedodd Vince Cable fod cryn wahaniaeth “rhwng realiti a disgwyliadau” yn rhai o’r prifysgolion.

Roedd yn ymateb i adroddiad gan gylchgrawn Addysg Uwch y Times fod cyflog is-gangellorion wedi cynyddu 10.6% ar gyfartaledd y flwyddyn ddiwethaf.

Does dim perthynas rhwng cyflogau o’r fath a sefyllfa economaidd gwledydd Prydain, meddai a does dim arwydd bod prifysgolion yn rhannu “realiti a hunanaberth” y sector busnes.

“Er nad ein gwaith ni yw rheoli tâl … ry’n ni eisiau anfon neges fod yn rhaid dal yn ôl ychydig,” meddai.

Cyflogau ‘cystadleuol’

Mae Nicola Dandridge, prif weithredwr Universities UK, sy’n cynrychioli is-gangellorion, wedi honni fod y cyflogau’n debyg i’r hyn y mae eu cystadleuwyr tramor yn ei dalu.

Ar y llaw arall, roedd Undeb y Prifysgolion a’r Colegau yn croesawu sylwadau Vince Cable, gan alw am “adolygiad” o gyflogau’r penaethiaid.

Yn ôl cylchgrawn Addysg Uwch y Times, roedd y 152 sefydliad a roddodd wybodaeth wedi talu £33.3 miliwn mewn cyflogau a budd-daliadau i’w penaethiaid yn 2008/09.

Roedd hyn yn golygu, ar gyfartaledd, gyflogau o £219,156, heb gynnwys pensiynau.