Mae crwner o Swydd Stafford wedi galw am wahardd llinynnau ar fleindiau ffenest, wedi i ddau blentyn grogi eu hunain o fewn pum niwrnod i’w gilydd.
Mae’r cais yn dod ddeng mis ar ôl i blentyn o Gymru gael ei grogi mewn ffordd debyg.
Roedd Gethin Ifor Jones, o Nefyn, Gwynedd, yn 1 oed, ac fe fu farw ar 29 Gorffennaf y llynedd.
Heddiw, roedd y crwner Andrew Haigh yn dyfarnu mewn cwest i farwolaethau Harrison Joyce (dde), 3 oed, a Lillian Bagnall-Lambe, 16 mis oed, a fu farw ar ôl cael eu dal yn y llinynnau ym mis Chwefror eleni.
Heddiw, dyfarnodd Andrew Haigh bod y ddau blentyn wedi marw yn ddamweiniol.
Gwahardd
Mae’n rhaid i’r Llywodraeth edrych eto ar reolau diogelwch, meddai’r crwner wrth wasanaeth teledu Sky News.
Mae rhieni Harrison Joyce wedi dechrau ymgyrch i wahardd rhoi’r cordenni ar fleindiau ac ar lenni.
Dywedodd tad y plentyn, Scott Joyce, wrth Sky News, fod yr Unol Daleithiau wedi gwahardd y llinynnau 10 mlynedd yn ôl.
“Dwi’n credu fod Awstralia wedi eu gwahardd, dwi’n credu eu bod wedi eu gwahardd yng Nghanada, ond mae’r systemau yma yn dal i gael eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig,” meddai.