Fe fydd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn aros gyda’r clwb ac mae’r cyfarwyddwyr wedi addo ei gefnogi’n ariannol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ôl cyfarfodydd rhyngddo a’r perchnogion, yn sgîl methiant clwb y brifddinas i gyrraedd yr Uwch Gynghrair.

Mewn datganiad wedyn, fe ddywedodd y clwb bod Dave Jones wedi “ymrwymo” i aros a bod y cyfarwyddwyr wedi derbyn ei gynigion yntau ynglŷn â’r dyfodol.

Fe fyddan nhw’n awr yn dechrau’r trafodaethau busnes i adeiladu sgwad ar gyfer y tymor nesa’, gyda’r bwriad o geisio cystadlu eto am ddyrchafiad.

‘Diolch’

Roedd y cyfarwyddwyr yn diolch i’r rheolwr a’r chwaraewyr am fynd â Chaerdydd i’r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth – eu safle ucha’ ers 29 o flynyddoedd.

Fe fydd y dyn busnes o Malaysia, TG, yn dod yn gadeirydd y clwb a’r gred yw ei fod ef a chonsortiwm o’r wlad yn buddsoddi tua £6 miliwn yn y clwb, sy’n dal i wynebu dyledion mawr.

Fe fydd y clwb yn mynd ar daith i Falaysia yn ystod mis Gorffennaf.

Llun: Dave Jones