Yr Eidal yw’r wlad ddiweddara’ i gyhoeddi toriadau llym mewn gwario cyhoeddus.

Y nod yw osgoi tynged Gwlad Groeg a mynd yn ysglyfaeth i fasnachwyr arian rhyngwladol.

Fe fydd y Prif Weinidog, Silvio Berlusconi, a’r Gweinidog Ariannol yn cynnal cynhadledd i’r wasg i gyhoeddi’r manylion, sy’n golygu arbedion o £20.8 biliwn.

Fe fyddan nhw’n wynebu brwydr wleidyddol i gael senedd y wlad i dderbyn y toriadau – eisoes, mae un o brif undebau’r wlad wedi dweud bod y toriadau’n pwyso gormod ar weithwyr cyffredin.

Lleihau’r diffyg

Bwriad y Llywodraeth yw tynnu diffyg blynyddol yr Eidal i lawr i tua 3% o gynnyrch economaidd blynyddol y wlad. Ganddi hi y mae’r ddyled fwya’ o holl wledydd yr euro.

Mae’r cynigion yn cynnwys

• Rhewi cyflogau cyhoeddus am dair blynedd a thorri cyflogau uwch weision sifil.
• Lleihau costau biwrocratiaeth.
• Ceisio rhwystro pobol rhag osgoi talu trethi – problem fawr yn yr Eidal.
• Mesurau i gryfhau economi de’r Eidal, sydd ar ôl y gweddill.

Llun: Silvio Berlusconi