Mae cynrychiolwyr pobol Manhattan wedi cefnogi’r bwriad i agor mosg yn agos at safle Ground Zero ac ymosodiad 9/11.

Mae grŵp Moslemaidd eisiau datblygu hen siop fawr yn yr ardal ac fe bleidleisiodd Bwrdd Cymunedol Manhattan yn gry’ o blaid y syniad ond roedd yna brotestiadau yn ystod y cyfarfod.

Fe fyddai Canolfan Cordoba yn cynnwys mosg ac mae gwleidyddion asgell dde a theuluoedd rhai o’r bobol a fu farw yn 2001 wedi condemnio’r bwriad.

Roedd yr adeilad, Park Place, wedi cael ei daro gan beth o’r rwbel adeg yr ymosodiad ar ddau dŵr Canolfan Fasnach y Byd pan gafodd bron 3,000 o bobol eu lladd.

‘Cymhedrol’

Dyw’r heddlu ddim yn gwrthwynebu’r bwriad ac fe fydd y ganolfan hefyd yn cynnwys cyfleusterau i dynnu crefyddau gwahanol at ei gilydd.

Y nod, meddai’r Gymdeithas Americanaidd er Hyrwyddo Moslemiaeth, yw hybu mathau cymedrol o Islam.

“Yr hyn yr ’yn ni’n ei wrthod yw rhagfarn noeth a chasineb,” meddai Llywydd Bwrdeisdref Manhattan, Scott Stringer.

“Dw i ddim yn credu bod neb eisiau gwneud dim i amharchu’r teuluoedd. Maen nhw wedi gwneud yr aberth eithaf.”

Llun: Gwraig yn protestio’n erbyn y bwriad (AP Photo)