Mae aelodau Cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio cynnal refferendwm ar ddiwygio’r sustem bleidleisio fis Mai nesaf, yr un adeg ag Etholiad Cynulliad 2011.
Yn ôl papur newydd y Guardian mae’r Dems Rhydd yn awyddus i sicrhau refferendwm mor gynnar a bo modd er mwyn profi i’w haelodau eu hunain a’r etholwyr eu bod nhw’n cael budd o’r glymblaid.
Mae yna hefyd bryder y byddai ymgyrchu o blaid cynrychiolaeth gyfrannol yn anoddach ymhellach ymlaen pan mae’r glymblaid yn fwy tebygol o fod yn amhoblogaidd oherwydd toriadau llym mewn gwariant cyhoeddus.
Fe fyddai cynrychiolaeth gyfrannol yn gwneud senedd grog a chlymblaid yn llawer mwy tebygol yn y dyfodol.
Mae’n debyg bod Nick Clegg eisiau cynnal y refferendwm mor gynnar â mis Hydref, ond mae o’n annhebyg y bydd y mesur yn cyrraedd y llyfr statud mewn pryd.
Maen nhw hefyd yn gobeithio y byddai refferendwm ar 5 Mai 2011 yn rhoi hwb i faint fyddai’n pleidleisio. Bydd etholiadau Cynulliad Cymru, Senedd yr Alban a chynghorau Lloegr yn cael eu cynnal yr un pryd.
Fe allai hynny fod yn amhoblogaidd gyda Phlaid Cymru a Llafur, oedd yn anhapus gyda’r cynllun i gynnal Etholiad Cyffredinol 2015 yr un diwrnod ag Etholiad Cynulliad 2015.
Pe bai’r refferendwm yn cael ei gynnal ym mis Hydref mae’n bosib y byddai’n cael ei gynnal yr un diwrnod a’r refferendwm ar fwy o bwerau i Lywodraeth y Cynulliad.
Mae yna bryderon y gallai’r refferendwm ar gynrychiolaeth gyfrannol ddryllio’r glymblaid, wrth i Nick Clegg a David Cameron ymgyrchu yn erbyn ei gilydd.