Mae Gogledd Korea wedi bygwth gwahardd unrhyw draffig dros y ffin â De Korea, ac mae nhw wedi dechrau dinistrio uchelseinyddion propaganda’r wlad arall.
Mae llywodraeth De Korea yn dweud bod arweinydd Gogledd Korea wedi gorchymyn i’w fyddin o 1.2 miliwn o filwyr baratoi am ryfel.
Ddoe cyhoeddodd Gogledd Korea eu bod nhw’n torri pob cysylltiad gyda’u cymdogion ar ôl i Dde Korea eu cyhuddo nhw o suddo llong ryfel.
Mae’r Gogled yn gwadu mai nhw oedd wedi suddo’r Cheonan ar 26 Mawrth, gan ladd 46 o forwyr y De. Ond fe benderfynodd arolwg gan arbenigwyr rhyngwladol mai un o dorpidos y Gogledd oedd yn gyfrifol.
Dirywiad
Daw’r dirywiad yn y berthynas rhwng y ddwy wlad wrth i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, gyrraedd Seoul er mwyn ceisio datrys y cweryl.
Heddiw dywedodd Gogledd Korea y bydden nhw’n “gwahardd yn gyfan gwbl” unrhyw bobol neu gerbydau o’r parth rhwng y ddwy wlad os nad yw De Korea yn rhoi’r gorau i’w “rhyfel seicolegol”.
Maen nhw hefyd wedi addo alltudio pobol o Ogledd Korea oedd yn gweithio mewn ffatri yn nhref Kaesong, ryw bum milltir o’r ffin.
Mae’r Unol Daleithiau wedi taflu ei phwysau y tu ôl i Dde Korea ac maen nhw’n cynllunio dau ymarferiad milwrol ger penrhyn Korea er mwyn rhybuddio Gogledd Korea yn erbyn mynd i ryfel.
Mae gan yr Unol Daleithiau 28,500 o filwyr yn Ne Korea.