Mae miloedd o filwyr heddlu yn Jamaica wedi ymosod eto ar gadarnle un o benaethiaid y fasnach gyffuriau yno.
Yn ystod y tridiau diwetha’, mae o leia’ 30 o bobol wedi eu lladd yn yr ymladd yn y ghettos yn y brifddinas, Kingston. Ond, yn ôl rhai newyddiadurwyr, mae’r cyfanswm yn nes at 60.
Mae’r lluoedd arfog yn gorfod ymladd yn erbyn cefnogwyr Christopher ‘Dudus’ Coke ar ôl i’r Unol Daleithiau fynnu ei fod yn cael ei anfon yno i wynebu achos llys.
Maen nhw’n honni bod y dyn 41 oed wedi bod yn anfon cocên i Efrog Newydd ers tua 15 mlynedd.
Ymladd yn Tivoli Gardens
Mae;’r ymladd yn digwydd yn benna’ mewn ghetto o’r enw Tivoli Gardens, lle mae cefnogwyr Christopher Coke wedi codi baricêds ac yn gwisgo mygydau wrth danio’n ôl.
Ddoe, fe ddywedodd Prif Weinidog Jamaica ei fod yn benderfynol o glirio’r troseddwyr o’r strydoedd ac fe fynegodd dristwch bod pobol wedi eu lladd.
Ond mae Bruce Golding hefyd yn cael ei gyhuddo o achosi’r argyfwng trwy beidio â gweithredu ynghynt.
Y cefndir
Tivoli Gardens yw etholaeth y Prif Weinidog, Bruce Golding, o Blaid Lafur Jamaica. Mae’r gwrthbleidiau’n honni bod cysylltiadau rhwng y Llywodraeth a Christopher Coke a’u bod yn defnyddio’i gefnogwyr ef i godi ofn ar bobol pan fydd etholiadau.
Roedd yr Unol Daleithiau wedi gofyn am estraddodi’r barwn cyffuriau ers rhai misoedd a Bruce Golding sy’n cael y bai am oedi tros hynny.
Ond, ddydd Sul, fe gyhoeddodd stad o argyfwng a symud yn erbyn Christopher Coke a’i gefnogwyr. Erbyn hynny, roedden nhw wedi cymryd camau i amddiffyn eu cadarnle.
Mae Tivoli Gardens yn un o nifer o ghettos – neu ‘garrisons’ – yn Kingston. Ymhlith y gweddill, mae Trenchtown, yr ardal lle y cododd Bob Marley a’r diwylliant reggae.
Llun: Milwr yn Kingston (AP Photo)