Wrth i’r ffrae waethygu tros ddyddiad refferendwm datganoli, mae pôl piniwn yn awgrymu y byddai mwyafrif cyfforddus o bobol Cymru o blaid pwerau newydd.
Yn ôl ymchwil YouGov, fe fyddai 50% yn pleidleisio o blaid rhoi rhagor o hawliau deddfu i’r Cynulliad a dim ond 32% yn erbyn.
Ond mae’r dadlau tros y dyddiad wedi ffyrnigo, gyda’r Llywodraeth yng Nghaerdydd yn cyhuddo Llywodraeth newydd David Cameron o weithredu heb ymgynghori â nhw.
Llywodreth Cymru’n ‘siomedig’
Maen nhw’n dweud mai dim ond gan y wasg y cawson nhw glywed am ddatganiad y Prif Weinidog yn Llundain ddoe mai yn 2011 y byddai’r refferendwm.
Neithiwr, fe gyhoeddon nhw ddatganiad yn mynegi eu siom ac yn condemnio’r diffyg cyfathrebu gan y Llywodraeth yn Llundain.
Yn ôl y datganiad, roedd y Comisiwn Etholiadol wedi awgrymu bod modd cwtogi’r broses o drefnu’r refferendwm er mwyn ei gynnal yn yr hydref.
Llythyr
Er bod Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn mynnu ei bod wedi sgrifennu at Lywodraeth Carwyn Jones, doedd y llythyr ddim wedi cyrraedd mewn pryd.
Bellach, mae Cheryl Gillan yn dweud ei bod yn fodlon gwrando ar ddadleuon tros gynnal y bleidlais yn yr hydref eleni.
“Dw i’n agored i ystyried unrhyw awgrymiadau,” meddai wrth deledu’r BBC neithiwr. “Dw i wedi gofyn iddyn nhw anfon eu hamserlen fanwl sy’n dangos sut y gall hyn fynd trwy bob cam mewn pryd, a hynny heb gael ei herio’n gyfreithiol.”
Ar y ffordd at ‘Ie’, meddai Richard Wyn Jones
Yn ôl Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd y pôl piniwn yn dangos pam fod cefnogwyr datganoli eisiau cynnal pleidlais eleni.
“Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o arolygon sy’n awgrymu bod yr ymgyrch ‘Ie’ ar y ffordd at fuddugoliaeth gymharol gyfforddus,” meddai.
“Mae’r momentwm yn amlwg ar ochr y rhai sydd am weld pwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol.”
Llun: Cheryl Gillan – goofyn am amserlen (Gwifren PA)