Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi ymateb yn llym i ymddygiad gwrthdystwyr mewn cyfarfod i ystyried ad-drefnu addysg yn ardal y Bala, ddoe.

Dywedodd Dyfrig Jones, cynghorydd Plaid Cymru ward Gerlan, ei fod o’n anhapus gyda phrotest Cymdeithas yr Iaith yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Gwynedd.

Roedd protestwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi “gorymateb” ar ôl penderfyniad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd i argymell cau Ysgol y Parc, ger y Bala, fel rhan o gynllun i ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal.

“Mae mor anodd cynnal trafodaeth pan mae gwrthwynebwyr yn gweiddi pethau fel bradwr a mochyn, mae’n anodd cynnal deialog,” meddai Dyfrig Jones.

Yn ôl Dyfrig Jones, roedd ymddygiad gwrthwynebwyr yn yr oriel gyhoeddus yn “gyfan gwbl warthus.”

Yn ei flog, mae’n son am sut y “cododd Ffred Ffransis ar ei draed, gan ein galw ni (hynny yw’r rhai ohonom a bleidleisiodd dros gau) yn fradwyr, a thaflu tegan meddal oen bach atom ni – i gynrychioli’r modd y mae’r Ysgol y Parc yn ‘oen i’r lladdfa’, chwedl Ffred”.

Roedd un arall o’r dorf wedi galw ei gyd-gynghorwyr yn “fochyn,” meddai ac Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd “wedi galw enwau’r cynghorwyr Plaid Cymru a oedd wedi pleidleisio dros gau, gan eu galw yn fradwyr,” meddai Dyfrig Jones.

Fe fydd yr argymhelliad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd y Cyngor ar 15 Mehefin 2010, ac wedyn i’r Cyngor Llawn ar 15 Gorffennaf.

Eisiau’r gorau i Wynedd

“Dwy garfan sydd eisiau gweld Gwynedd yn ffynnu ydan ni,” meddai Dyfrig Jones wrth Golwg360.
“Mae cael ein pardduo fel hyn yn brifo. Dydi o ddim yn brofiad braf – mae’n gwneud trafod yn anodd pan mae rhai gwrthwynebwyr mor ffwndamentalaidd.”

Mae’r cynghorydd yn cytuno gydag adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i effaith ieithyddol ad-drefnu addysg gynradd, meddai.

Mae’r adroddiad yn datgan y byddai cau’r Parc yn cael effaith “gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, gan y byddai yn arwain at greu ysgol fwy, ac felly mwy cynaliadwy, yn Ysgol O.M. Edwards”.

Ysgolion bach yn ‘risg’

Mae ysgolion bach yn golygu “llawer o risg” meddai’r Cynghorydd yn “nhermau ieithyddol a safonau addysg”.

“Dw i’n derbyn bod rhieni plant yn ysgol y Parc yn siomedig – ond yn anffodus, fedrwn ni ddim cynnal y ddarpariaeth bresennol.

“Ond dylai grwpiau ddim bod yn gwneud datganiad di-sail am barhad y genedl a’r iaith ar sail cau un ysgol.”

Heb ad-drefnu addysg, byddai’r sefyllfa “llawer iawn gwaeth” gydag “ysgolion yn Saesnigio” a phroblemau cyllid yn arwain at eu cau yn y diwedd, meddai.

Mae’r newidiadau hyn yn “gyfle i osgoi sefyllfa o’r fath,” dywedodd.

Ymateb Osian Jones

Dywedodd Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yng Ngogledd Cymru fod argraff Dyfrig Jones yn “hollol anghywir” ac na alwodd gynghorwyr yn fradwyr dim ond dweud y bydd y penderfyniad “ar eu cydwybod”.

“Tri aelod o’r Gymdeithas oedd yn bresennol yn y Siambr. Fi, Ffred a Geraint,” meddai Osian Jones cyn mynd ymlaen i ddweud fod “tua 30 o aelodau o’r Parc” yn bresennol.

Er bod y trefnydd yn cydnabod yr “ymgynghori” sydd wedi bod yn digwydd fe ddywedodd ei bod yn “amlwg nad yw swyddogion wedi gwrando ar lais bobl leol” gan mai’r consensws oedd “sefydlu ffederasiwn yn yr ardal”.

“Maen nhw jest eisiau gwthio’r cynllun yn ei flaen,” meddai Osian Jones cyn dweud ei fod yn “teimlo bod cynghorwyr wedi bradychu pobl a chymuned y Parc”.

“Wnes i enwi Dyfrig Siencyn, Ioan Thomos a Dyfrig Jones. Pam? Am fy mod i’n teimlo eu bod nhw’n bod yn annemocrataidd am y peth drwy ddweud na ddylai pobl hefo diddordeb personol yn ysgolion Penllyn gael pleidleisio ar y mater.”

Fe ddywedodd wrth Golwg360 mai ei ddadl ef oedd bod gan bawb farn ar addysg yr ardal ac fe “ddylai pawb gael pleidleisio”.