Cwmni o Loegr sydd wedi ennill y cytundeb i ddarlledu o’r Cynulliad Cenedlaethol, ond fe fydd yn cydweithio gyda chwmni Cymraeg.

Fe gyhoeddodd y Cynulliad eu bod wedi rhoi’r cytundeb i Bow Tie Television, y cwmni sydd hefyd yn darlledu o’r Senedd yn Llundain.

Roedden nhw wedi cadw at reolau prynu Ewropeaidd, medden nhw, a’r cwmni o Lundain oedd yn cynnig y “gwerth gorau am arian”.

Fe fydd yn dechrau ym mis Awst, gyda chwmni teledu Telesgop yn gyfrifol am elfennau cynnwys, gan gynnwys y gwasanaethau ar-lein.

Barcud Derwen

Tan hyn, cwmni Barcud Derwen oedd yn gyfrifol am yr adnoddau darlledu ond mae bellach mewn trafferthion ariannol ac yn debyg o gael ei brynu neu fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad eu bod yn trafod gyda Barcud Derwen i geisio gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn parhau tan yr haf – mae’r cwmni darlledu wedi rhoi addewid y bydd hynny’n digwydd, naill ai trwyddyn nhw neu’r gweinyddwyr.

Mae Golwg360 yn deall y bydd Bow Tie Television yn sefydlu swyddfa gyda Telesgop yn Abertawe.

Mae Bow Tie Television yn arbenigo ar ddarlledu allanol a gwasanaethau adnoddau a chynhyrchu. Mae’n dathlu ei 20 oed eleni.