Mae David Cameron wedi dweud y dylai’r refferendwm ar fwy o bwerau i Lywodraeth y Cynulliad fod y flwyddyn nesaf.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones eisoes wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn dweud ei fod eisiau cynnal y refferendwm ym mis Hydref.
Cafodd ymrwymiad i gynnal y refferendwm , sy’n rhan allweddol o glymblaid Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, ei gadarnhau yn araith y Frenhines heddiw.
Dyw dyddiad y bleidlais a’r cwestiwn heb eu pennu ond mae’n rhaid cynnal y refferendwm cyn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai flwyddyn nesaf.
Yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn ag araith y Frenhines gofynnodd AS Llafur Wrecsam, Ian Lucas, a fyddai’r Prif Weinidog yn cefnogi datganoli mwy o bwerau.
“Yr hyn yr ‘yn ni am ei wneud yw gadael i’r refferendwm fynd yn ei flaen ar ôl i’r llywodraeth ddiwethaf ei ddal o’n ôl,” meddai.
“Bydd dyddiad yn cael ei benodi ar gyfer y refferendwm ond rydw i’n credu y dylai fod y flwyddyn nesaf ac y dylai fod dadl agored a rhydd yng Nghymru cyn iddo ddigwydd.”
Gwrthod ateb
Gwrthododd ateb cwestiwn Ian Lucas a dweud a fyddai’n cefnogi pwerau pellach.
“Mae gen i ddau gartref ond does yr un ohonyn nhw yng Nghymru felly fydda i ddim yn gallu pleidleisio,” meddai David Cameron.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan gyfarfod gyda’r Comisiwn Etholiadol ddoe er mwyn trafod pryd y dylai’r refferendwm gael ei gynnal.
Ymateb Plaid Cymru
Dywedodd AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones, nad lle David Cameron oedd hi i benderfynu pryd y byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal.
Roedd pob plaid yng Nghymru yn ystyried mai refferendwm ym mis Hydref oedd yr opsiwn gorau, felly dylai Ysgrifennydd Cymru weithio tuag at y dyddiad hwnnw, meddai.
“Ddylai ymddygiad David Cameron ddim bod yn syndod. Mae’n ceisio gorchymyn dyddiad refferendwm Cymru, ond rhaid bod yn glir nad ei benderfyniad ef yw hwn,” meddai Helen Mary Jones.
“Mae’n amlwg erbyn hyn nad beth sydd orau i Gymru yw blaenoriaeth Llywodraeth San Steffan ac mae hyn yn esiampl arall o hynny.
“Mae hefyd yn dangos cyn lleied o ddylanwad sydd gan arweinwyr y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru dros eu bosys yn Llundain.
“Mae’r ddau wedi dweud y byddai’n well ganddyn nhw gan refferendwm ym mis Hydref. Ond mae David Cameron a Nick Clegg wedi eu hanwybyddu nhw.”