Mae asgellwr y Gweilch, Tommy Bowe, wedi dweud bod cyflwyno gemau’r pedwar olaf i Gynghrair Magners wedi ei gwneud hi’n fwy o gystadleuaeth.
Bydd y Gwyddel yn rhan o dîm y Gweilch fydd yn wynebu Leinster yn Nulyn yn rownd derfynol cyntaf erioed y Gynghrair Magners y penwythnos yma.
“Mae gemau’r pedwar olaf wedi bod yn wych. Roedden ni ychydig yn wyliadwrus ar y dechrau wrth ystyried cael dwy gêm ychwanegol,” meddai Bowe.
“Mae’n dymor hir fel y mae hi ond mae’r gemau ail gyfle wedi ychwanegu rhywfaint o sbeis i Gynghrair Magners.
“Mae ‘na deimlad tebyg i’r Cwpan Heineken amdano,” ychwanegodd Bowe.